Martyn Williams
Mae Martyn Williams yn paratoi am haf o waith caled wrth dargedu chwarae yn ei bedwerydd Cwpan y Byd ac ennill ei ganfed cap dros Gymru.

Mae blaenasgellwr y Gleision wedi ei gynnwys yng ngharfan ymarfer 45 dyn Cymru ar gyfer y gystadleuaeth yn Seland Newydd yn yr hydref.

Mae Williams yn cydnabod bod her yn wynebu ef a’i gyd-chwaraewyr gyda sesiynau ymarfer yng Ngwlad Pwyl a tair gêm brawf o’u blaen cyn i Warren Gatland dorri’r garfan lawr i 30 dyn erbyn 31 Awst.

Ond mae’r blaenasgellwr profiadol yn gwybod na fydd ennill lle yn y garfan yn dasg hawdd.

Mae Sam Warburton wedi cymryd ei le ar yr ochr agored yn y tîm cenedlaethol ac ni chafodd ei gynnwys yn sgwad Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Roedd methu’r Chwe Gwlad yn ergyd mawr, ar ôl i mi chwarae’n dda yn yr hydref,” meddai Williams.

“Mae’n siomedig a rhwystredig ond mae’n rhaid derbyn hynny. Ond mae haf hir o’n blaenau ni, ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn dechrau gyda llechen lân.

“Ond mae’n debygol mae un blaenasgellwr ochr agored fydd yn mynd i Gwpan y Byd.  Mae nifer o’r bois eraill yn gallu chwarae rhif chwech a saith, ond bydd rhaid gweld beth sy’n digwydd.”

Mae Williams dau gap yn unig yn fyr o gymryd ei le â Gareth Thomas a Stephen Jones ar 100 o gapiau dros ei wlad.

“Fe fyddai ennill 100 o gapiau yn wych, ond os na fydda i’n gwneud hynny mae fy ngyrfa wedi bod yn un gwych,” meddai Williams.

Carfan ymarfer Cymru

Blaenwyr- Huw Bennett (Gweilch ), Lloyd Burns (Dreigiau), Richard Hibbard (Gweilch ), Matthew Rees (Scarlets), Scott Andrews (Gleision), Ryan Bevington (Gweilch ), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Adam Jones (Gweilch ), Craig Mitchell (Caerwysg), John Yapp (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Bradley Davies (Gleision), Alun Wyn Jones (Gweilch ), Lou Reed (Scarlets); Gareth Delve (Melbourne Rebels), Toby Faletau (Dreigiau), Ryan Jones (Gweilch ), Dan Lydiate (Dreigiau), Rob McCusker (Scarlets), Andy Powell (Sale), Jonathan Thomas (Gweilch ), Justin Tipuric (Gweilch ), Josh Turnbull (Scarlets), Sam Warburton (Gleision), Martyn Williams (Gleision).

Cefnwyr- Tavis Knoyle (Scarlets), Dwayne Peel (Sale), Mike Phillips (Gweilch ), Richie Rees (Gleision), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Jason Tovey (Dreigiau), James Hook (Perpigan), Andrew Bishop (Gweilch ), Jonathan Davies (Scarlets), Gavin Henson (Dim clwb), Jamie Roberts (Gleision); George North (Scarlets), Aled Brew (Dreigiau), Morgan Stoddart (Scarlets), Scott Williams (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), Lee Byrne (Clermont Auvergne), Leigh Halfpenny (Gleision).