Dave Jones - wedi mynd
Mae Dave Jones wedi cael y sac o fod yn rheolwr ar glwb pêl-droed dinas Caerdydd.
Ond maen nhw wedi ei ganmol i’r cymylau wrth gyhoeddi ei fod yn mynd.
Fe fydd yr Adar Gleision yn dechrau ar unwaith ar y gwaith o geisio dod o hyd i reolwr newydd.
Fe gyhoeddodd y clwb ar eu gwefan heddiw eu bod wedi rhoi notis i Dave Jones ar ôl ystyried methiant Caerdydd i gael dyrchafiad i’r uwch Gynghrair.
‘Llawer gwell’
Er hynny, roedd y Prif Weithredwr, Gethin Jenkins, yn cydnabod bod cyn chwaraewr Everton wedi “gadael y clwb mewn llawer gwell cyflwr na pan gyrhaeddodd”.
Roedd wedi troi’r clwb yn gystadleuwyr cyson am ddyrchafiad, meddai, ac wedi eu harwain i rown derfynol Cwpan FA Lloegr.
“Mae ei ymdrechion wrth recriwtio a datblygu chwaraewyr hefyd yn golygu bod gwerthu’r rheiny ar adegau wedi caniatáu i’r clwb oroesi.
“Mae hefyd wedi cael dylanwad sylweddol ar ddatblygu cyfleusterau hyfforddi a’r stadiwm.”