Chris Ashling -dwy wiced (o wefan Morgannwg)
Mae glaw wedi ymyrryd yn y gêm rhwng Morgannwg a Northamptonshire ar frig Ail Adran y Bencampwriaeth LV=.

Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, roedd y Cymry’n wynebu cyfanswm anferth wrth i’r tîm cartre’ gyrraedd 325-3, gyda Rob White yn dal i fod yno ar 101 heb fod mas.

Heb eu prif fowliwr, James Harris, fe gafodd Morgannwg drafferth i gael gwared ar fatwyr cynnar Northampton gyda White a Stephen Peters yn rhannu partneriaeth o 133 cyn i Peters fynd am 115.

Y bowliwr cyflym Chris Ashling a gafodd y wiced honno ac fe orffennodd gyda 2 am 74 tra bod y troellwr Robert Croft ar 1 am 50.

Ar ddechrau’r gêm, roedd Morgannwg yn ail, dri phwynt y tu cefn i Northants, ond wedi chwarae un gêm yn rhagor.