Mae Wrecsam wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle yn dilyn buddugoliaeth 4-2 yn erbyn Tamworth yn y Cae Ras.

Fe sgoriodd Curtis Obeng, Nathaniel Knight-Percival i roi’r Dreigiau ar y blaen, cyn i’r ymwelwyr daro ‘nôl gyda Scott Barrow y sgorio.

Fe gafodd chwaraewr Tamworth, Aaron Mitchell ei anfon o’r maes ac fe fanteisiodd tîm Dean Saunders ar eu dyn ychwanegol.

Fe sgoriodd Andy Mangan  a Gareth Taylor i roi Wrecsam 4-1 ar y blaen cyn i Kyle Perry sicrhau gôl gysur i Tamworth.

Casnewydd

Fe gollodd Casnewydd 1-0 yn erbyn pencampwyr yr adran, Crawley ar Barc Spytty.

Fe sgoriodd amddiffynnwr Crawley, Dean Howell ei gôl gyntaf o’r tymor gydag ymdrech o ugain llath.

Roedd Casnewydd yn credu iddynt unioni’r sgôr gyda pheniad gan Jamie Collins- ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd y bêl wedi croesi’r llinell.