Mae Abertawe wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar ôl curo Ispwich 4-1 yn Stadiwm Liberty.
Fabio Borini

Fe sgoriodd yr ymosodwr ar fenthyg, Fabio Borini dwy gôl i ysbrydoli’r Elyrch i sicrhau’r pwyntiau llawn.

Fe sgoriodd yr Eidalwr ifanc gôl agoriadol y gêm wedi naw munud cyn i Luke Moore ddyblu mantais Abertawe pum munud yn ddiweddarach.

Fe darodd Ipswich ‘nôl gyda gôl gan Colin Healy wedi ugain munud cyn i Borini sgorio eto deg munud yn ddiweddarach.

Fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau pan lwyddodd Scott Sinclair gyda chic o’r smotyn gydag ugain munud yn weddill.

Mae Abertawe yn y pedwerydd safle yn yr adran erbyn hyn, pum pwynt oddi ar Gaerdydd yn y trydydd safle.