Cae Ffordd Farrar Bangor
Fe fydd capten Bangor, Jamie Brewerton, yn methu rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl cael ei wahardd am bum gêm gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru.

Fe gafodd yr amddiffynnwr ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol ar ôl cael ei anfon o’r cae yn ystod buddugoliaeth 2-1 Bangor dros Brestatyn ym mis Chwefror.

Gwelodd Brewerton y garden goch am ffowl broffesiynol ar ymosodwr Prestatyn, Lee Hunt.

Honnwyd iddo hefyd geisio bwrw chwaraewr-reolwr Prestatyn, Neil Gibson, gyda’i benelin.

Yn dilyn archwiliad o’r dystiolaeth ysgrifenedig a DVD, fe benderfynodd y gymdeithas bod amddiffynnwr Bangor yn euog.

Fe fydd Jamie Brewerton yn colli pum gêm nesaf Bangor sy’n cynnwys ffeinal Cwpan Cymru a gemau olaf holl bwysig Uwch Gynghrair Cymru.

Gwaharddiadau eraill

Mae cyfarwyddwr pêl-droed y Seintiau Newydd, Mike Davies, wedi ei wahardd o’r ystlys am ddwy gêm ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddefnyddio iaith anweddus yn ystod buddugoliaeth 3-2 yn erbyn Bangor.

Mae chwaraewr Caerfyrddin Steve Evans wedi cael ei wahardd am dair gêm ar ôl cael ei anfon o’r maes yn erbyn y Drenewydd ar 12 Mawrth.