Tocyn Loteri
Mae pedwar cefnogwr rygbi o dde Cymru yn bwriadu teithio i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd ar ôl ennill £4 miliwn rhyngddyn nhw ar y Loteri.
Enillodd pedwar cyfaill £1,004,902 yr un nos Sadwrn. Roedd eu tocyn nhw yn un o bedwar oedd wedi rhannu’r jackpot £16 miliwn.
Mae Terry Roberts, 50, Mike Williams, 45, Lance Gifford, 50, a Gerwyn Jones, 48, wedi bod yn ffrindiau ers cyfarfod yn y clwb rygbi lleol dros 20 mlynedd ‘nôl.
Terry Roberts sydd wedi bod yn prynu’r tocynnau ers 2003 ac ef oedd y cyntaf i sylweddoli eu bod nhw wedi ennill.
“Rydw i fel arfer yn edrych ar y rhifau ar ôl codi ar fore dydd Sul. Roeddwn n wedi codi am 7.00am a mynd ar Teletext i weld beth oedd y rhifau,” meddai Terry Roberts.
“Dim ond £80 oedden ni wedi ei ennill cyn hyn, rhai blynyddoedd yn ôl, ac roeddwn i’n methu credu’r peth pan welais i fod y chwe rhif yr un peth.
“Fe lusgais i’r wraig allan o’r gwely er mwyn iddi allu gwneud yn siŵr fod y rhifau’n gywir.
“Roeddwn i’n gwybod mai Gerwyn fyddai’r unig aelod o’r syndicâd fyddai wedi codi’r amser yma o’r bore felly fe ffoniais i ef a thorri’r newydd.
“Ond doedd e ddim yn fy nghredu a bu’n rhaid i mi fynd draw ato er mwyn dangos y tocyn.
“Fe aethom ni draw i dŷ Mike a churo ar ei ddrws nes ei fod yn codi i roi’r newyddion iddo ac yna gwneud yr un peth gyda Lance.
“Ar ôl i bawb ddod i wybod fe aethon ni yn ôl i’r tŷ am barti.”