Casnewydd 2 – 1 Darlington

Mae Anthony Hudson wedi dechrau ei gyfnod wrth y llyw yng Nghasnewydd, gyda buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Darlington ar Barc Spytty.

Fe sgoriodd Charlie Griffin y gôl agoriadol i Gasnewydd ar ôl croesiad gan Kerry Morgan wedi 20 munud, cyn i Darryl Knights dyblu mantais y tîm gartref wyth munud cyn yr egwyl.

Fe darodd Darlington drwy Aman Verma a sgoriodd wedi 68 munud.

Ond er i Darlington bwyso am eu hail gôl, roedd amddiffyn Casnewydd wedi aros yn gadarn a dal ymlaen am y fuddugoliaeth.

Mae Casnewydd yn yr wythfed safle yn Uwch Gynghrair Blue Square, chwe phwynt oddi ar safleoedd y gemau ail gyfle.