Castell-nedd
Mae Castell-nedd wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog y byddwn nhw’n gallu cael trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor nesaf.

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru ddoe bod naw aelod presennol o Uwch Gynghrair Cymru, yn ogystal â Thref Llandudno o Gynghrair Huws Gray Cymru Alliance, wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio am drwydded ddomestig.

Methodd Castell-nedd ynghyd a Llanelli a’r Bala sicrhau’r drwydded ar y cynnig cyntaf.  Mae Castell-nedd a Llanelli hefyd wedi methu cael trwydded UEFA er mwyn cael chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Bydd y clybiau yn cael cyfle i apelio o flaen panel annibynnol ar 28 Ebrill.

“R’yn ni am dawelu meddyliau’r cefnogwyr a’u sicrhau fod y clwb yn gweithio i ddatrys y materion yn ymwneud a’r drwydded,” meddai Castell-nedd mewn datganiad.

“R’yn ni’n ffyddiog byddwn ni yn cwrdd â’r gofynion o fewn y raddfa amser sydd wedi ei ddarparu gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru.”