Gareth Bale
Mae rheolwr Tottenham, Harry Redknapp wedi dweud bod Gareth Bale yn rhan allweddol o gynlluniau’r clwb.

Ddoe dywedodd y Cymro na fyddai’n troi ei gefn ar gyfle i chwarae dramor pe bai’n cael cynnig.

Mae Bale wedi denu sylw nifer o brif glybiau Ewrop gan gynnwys Real Madrid a Barcelona.

Ond mae rheolwr Tottenham wedi dweud y byddai gwerthu Bale yn difetha ei gynlluniau at y dyfodol.

“Os ydych chi’n ceisio adeiladu clwb, allwch chi ddim gwerthu Gareth,” meddai Harry Redknapp.

“Pe bai’r clwb yn gwerthu Gareth fe fyddai chwaraewyr eraill gan gynnwys Luka Modric yn awyddus i adael wedyn.

“Rwy’n siŵr y byddai’n gwerthu am bris teidi, ond sut fyddwch chi’n dod o hyd i rywun i gymryd ei le? Mae’n anodd iawn.

“Ond mae’r grym gan y chwaraewyr. Pe bai Gareth neu ei asiant yn dweud ei fod o eisiau gadael y clwb fyddwn i ddim yn gallu gwneud llawer iawn am y peth.

“Ond dw i ddim yn gweld hynny’n digwydd gan ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd.

“Dw i ddim yn credu ei fod yn barod i chwarae gydag un o brif glybiau Ewrop eto.  Rwy’n credu bod angen iddo dreulio rhai blynyddoedd yn chwarae gartref.

“Mae yn foi ifanc ac mae ganddo ddigon o amser i chwarae dramor yn y dyfodol.”