Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi rhoi trwydded i ddeg clwb Cymreig chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae naw clwb sydd eisoes yn chwarae ym mhrif adran Cymru wedi derbyn y drwydded, sef-

  • Aberystwyth
  • Airbus UK
  • Bangor
  • Caerfyrddin
  • Y Drenewydd
  • Hwlffordd
  • Port Talbot
  • Prestatyn
  • Y Seintiau Newydd

Yn ogystal â’r clybiau yma, mae Tref Llandudno o Gynghrair Huws Gray Cymru Alliance wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am drwydded.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Gymdeithas Bêl Droed Cymri wobrwyo’r drwydded i glwb Parc Maesdu.

Fe gafodd cais sawl clwb arall eu gwrthod gan y gymdeithas gan gynnwys Y Bala, Castell-nedd, a Llanelli o Uwch Gynghrair Cymru.

Mae Gap Cei Connah, Derwyddon Cefn, Y Fflint Utd, Lido Afan, Y Barri a Phen-y-bont, hefyd wedi methu wrth wneud cais am drwydded.

Ond fe fydd gan y clybiau yma’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd panel annibynnol yn clywed eu dadleuon ar 28 Ebrill.

Trwydded UEFA

Roedd 11 clwb hefyd wedi ceisio am drwydded UEFA er mwyn gallu cystadlu yn Ewrop y tymor nesaf.

Mae naw clwb o Uwch Gynghrair Cymru a lwyddodd i sicrhau’r drwydded ddomestig hefyd wedi llwyddo i gael y trwyddeded UEFA.

Fe gafodd ceisiadau Castell-nedd a Llanelli eu gwrthod unwaith eto, ond maen ganddyn nhw ddeg diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.