Cae Ffordd Farrar
Mae rheolwr Bangor, Nev Powell, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd ei dîm yn ennill Uwch Gynghrair Cymru er eu bod nhw wedi colli 2-1 yn erbyn Prestatyn.

Roedd Bangor yn ffefrynnau i ennill y bencampwriaeth ar ôl dechrau’r tymor ar dân gan ennill 15 gêm yn olynol.

Ond maen nhw wedi methu ennill yr un o’u pum gêm ddiwethaf ac mae’r Seintiau Newydd wedi mynd un pwynt ar y blaen ar frig y tabl.

“Mae’n help bod y Seintiau Newydd wedi cael gêm gyfartal yn unig dros y penwythnos.  Fe fyddwn ni’n ennill y gynghrair os allwn ni ennill ein pedair gêm olaf,” meddai Nev Powell wrth bapur y Daily Post.

“Mae’n mynd i fod yn anodd, ond mae’r clwb yn ei haeddu ac fe fyddaf yn dweud hynny wrth y chwaraewyr.”

Mae gan Fangor a’r Seintiau Newydd bedair gêm yr un yn weddill i chwarae ac fe fydd y ddau glwb yn cyfarfod yn Ffordd Farrar ar gyfer gêm olaf y tymor ar ddiwedd y mis.