Gareth Bal
Mae Gareth Bale wedi cyfaddef y byddai’n ddigon hapus cael symud i chwarae mewn gwlad dramor.
Daw sylwadau’r Cymro wrth iddo baratoi i wynebu Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr nos yfory.
Mae perfformiadau’r asgellwr dros Tottenham eleni wedi denu diddordeb clybiau mwyaf Ewrop, gan gynnwys Real Madrid a Barcelona.
Fe arwyddodd Bale gytundeb newydd gyda Tottenham yn ddiweddar, ond nid yw’r syniad o chwarae ar y cyfandir yn ofni’r Cymro.
“Mae’n amhosib gwybod beth all ddigwydd, ond does gen i ddim ofn gadael y wlad. Fe adawais i adref pan oeddwn i yn 15 oed,” meddai Gareth Bale.
“Pe bai yna gyfle gwych ar gael, fe ddylen i ei ystyried yn ddifrifol. Fe fyddwn i’n datblygu be bawn i’n gadael yr Uwch Gynghrair, dysgu iaith newydd a gweld gwlad arall.”
Ond er gwaethaf yr holl sylw i Gareth Bale dros y misoedd diwethaf, mae’r Cymro wedi dweud nad yw’n talu sylw i beth sy yn y cyfryngau.
“Mae fy nghyd-chwaraewyr yn tynnu fy sylw i ato, ond rwy’n ceisio peidio cymryd sylw o’r holl beth,” meddai Bale.
“Rwy’n chwarae fy mhêl droed gorau gyda Tottenham ac mae’n teimlo fel bod pobl yn siarad am rywun arall pan maen nhw’n dweud faint fydden i’n costio a pwy fyddai am fy arwyddo.”