Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi cael ei ddal mewn dadl rhwng ei glwb a’i wlad wrth iddo geisio dod yn ôl mewn pryd i wynebu Real Madrid yng Nghwpan y Pencampwyr.

Yn ôl Cymru, roedd wedi ei anafu cyn ymuno â’r garfan ryngwladol yr wythnos ddiwetha’; yn ôl y clwb fe dynnodd linyn y gar wrth hyfforddi gyda’i wlad.

Yn ôl pennaeth meddygol Spurs, roedd Bale yn ffit pan adawodd y clwb ar ôl chwarae tros Spurs yn erbyn West Ham y penwythnos cyn diwetha’.

Doedd tîm meddygol Cymru ddim wedi codi amheuon bryd hynny, meddai Wayne Diesel, a dim ond ar ôl 40 munud o hyfforddi gyda Chymru yr oedd y chwaraewr wedi cwyno am dyndra yn y cyhyrau.

Roedd y clwb wedi mynnu’i fod yn cael sgan, meddai Diesel, sy’n cefnogi sylwadau cynharach gan  reolwr Spurs, Harry Redknapp.

Mae’r clwb yn dweud bod y sesiwn hyfforddi yn cynnwys cyfnodau o redeg caled.