Bale yn destun dadl
Mae dadl rhwng gwlad a chlwb tros yr anaf i chwaraewr gorau Cymru.

Mae rheolwr Tottenham, Harry Redknapp, wedi mynnu bod asgellwr Cymru, Gareth Bale yn ffit i chwarae pan adawodd y clwb ar ôl y penwythnos.

Fe fydd Gareth Bale yn colli’r gêm ragbrofol yn erbyn Lloegr yfory ar ôl tynnu’n ôl o garfan Cymru ddoe oherwydd anaf i linyn y gar.

Fe ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod Bale wedi cael ei anafu cyn ymuno gyda charfan Gary Speed.

Roedd yn ffit – meddai Harry

Ond mae Harry Redknapp wedi gwrthod honiad y gymdeithas gan ddweud na fyddai wedi gollwng y Cymro ar gyfer y gêm oni bai ei fod yn ffit.

“Fe chwaraeodd Gareth 90 munud yn erbyn West Ham, ac mae’r ffigurau’n dangos ei fod wedi rhedeg y pellter mwyaf erioed yn ystod gêm,” meddai Redknapp.

“Doedd dim unrhyw arwydd o anaf i linyn y gar. Doedd e ddim wedi dweud fod y cyhyr yn dynn ar ôl y gêm.

“Doedd e ddim wedi ei anafu ddydd Sadwrn. Ond mae gyda fe anaf erbyn hyn ac mae’n rhaid ei fod wedi gwneud hynny gyda Chymru. Ond dw i ddim yn beio neb.”