Sam Vokes
Fe fydd un o chwaraewyr Cymru yn gwneud ei orau i rwystro Abertawe a Chaerdydd rhag cael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair.

Mae Sam Vokes yn un o ddau flaenwr sydd wedi eu harwyddo ar fenthyg gan Norwich City – cystadleuwyr amlyca’r ddau glwb Cymreig.

Mae Norwich ar hyn o bryd yn ail yn y Bencampwriaeth, un pwynt o flaen Abertawe a bedwar o flaen Caerdydd.

Fe lwyddodd rheolwr y Caneris, Paul Lambert, i fachu Vokes o Wolves ac mae hefyd wedi arwyddo Dani Pacheco o Lerpwl.

Roedd y ddau’n awyddus iawn i chwarae, meddai, ac fe fyddan nhw’n “rhoi hwb i’r clwb” o ddwyrain Lloegr.

Roedd Vokes, sydd yng ngharfan Cymru’r penwythnos yma, wedi bod ar fenthyg i Sheffield United hefyd.