Earnshaw - heb fod ar gael i Gymru
 Fe fydd yr ymosodwr, Robert Earnshaw yn colli gêm ragbrofol Cymru yn erbyn Lloegr oherwydd anaf.

Fe anafodd Earnshaw linyn y gar wrth chwarae i Nottingham Forest yn erbyn Doncaster y penwythnos diwethaf.

Dyw’r broblem mor ddifrifol ag yr oedd y clwb yn ei ofni’n wreiddiol ond mae sgan wedi cadarnhau y bydd y Cymro’n colli’r mis nesaf.

Mae’n golygu na fydd ar gael i herio’r Saeson yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Mawrth – ond mae hefyd yn golygu na fydd ar gael i helpu Forest sy’n cystadlu gydag Abertawe a Chaerdydd am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

‘Newyddion da’

Yn ôl rheolwr Nottingham Forest, fe allai pethau fod yn waeth.

“Mae gan Robert anaf gradd un i linyn y gar, sy’n newyddion da i ni,” meddai Billy Davies. “Fe fydd allan am tua thair i bedair wythnos.  Fe fyddai unrhyw beth yn fwy na hynny’n drychinebus i ni.”