George North
Mae hyfforddwr sgiliau Cymru wedi croesawu dychweliad y prop pen tynn Adam Jones yn ôl i’r tîm rhyngwladol.

“Mae’n hwb mawr i gael chwaraewr o’r safon yna’n dychwelyd i’r tîm – mae’n Llew ac yn un o chwaraewyr gorau’r byd yn y safle yna,” meddai Neil Jenkins.

Mae prop y Gweilch wedi gorfod dod yn ôl yn gynt na’r disgwyl ar ôl i’r dyn a gymerodd ei le, Craig Mitchell, gael anaf.

“Mae Craig Mitchell wedi gwneud gwaith gwych i ni yn ystod y bencampwriaeth, ond mae’n gysur i wybod bod Adam yn dychwelyd i lanw’r bwlch,” meddai Jenkins.

Mae’n cydnabod y  Cymru’n gweld eisiau Shane Williams ar yr asgell ond mae’n credu y bydd George North yn awyddus i ddangos ei ddoniau unwaith eto wrth iddo yntau ddod yn ôl ar ôl colli misoedd o chwarae.

“Fe fyddai unrhyw dîm yn gweld eisiau Shane, ond mae George yn cynnig her wahanol i’r gwrthwynebwyr”

“Fe fydd am ddangos ei ddoniau ac mae ganddo’r sgiliau angenrheidiol i berfformio’n dda dros Gymru dydd Sadwrn.”