Y Cae Ras (llun o wefan clwb Wrecsam)
Mae perchnogion Wrecsam wedi cadarnhau na fydd Stephanie Booth yn ceisio prynu’r clwb.
Roedd y ddynes busnes wedi cyhoeddi ar gae pêl-droed y Cae Ras ddydd Sadwrn bod Goeff Moss ac Ian Roberts yn ffafrio ei chynnig hi i brynu’r clwb.
Ond dywedodd cyn-chwaraewr y Dreigiau, Ashley Ward, sy’n arwain cynnig arall i brynu’r clwb, nad oedd y perchnogion yn ffafrio un cynnig yn fwy na’r llall.
Ers hynny mae Stephanie Booth wedi rhoi gwybod i’r perchnogion presennol ei bod yn bwriadu tynnu yn ôl o’r ras i brynu’r clwb.
Dywedodd perchnogion y clwb bod hynny o ganlyniad i ddatganiad gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn dweud nad oedden nhw’n mynd i wneud cynnig ar y cyd â Stephanie Booth.
Ond mae Geoff Moss ac Ian Roberts wedi dweud fod yna grwpiau sydd â diddordeb mewn prynu Wrecsam o hyd.
Ashley Ward
Dywedodd y ddau mai cynnig Ashley Ward yw’r ceffyl blaen ar hyn o bryd.
“Ar hyn o bryd dim ond Ashley Ward sydd wedi dangos fod ganddo strategaeth tymor byr, a hir, yn ogystal â’r gyllideb,” meddai’r perchnogion mewn datganiad
Dywedodd y perchnogion bod Ashley Ward wedi cyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r Cyngor lleol, Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, yn ogystal â Stephanie Booth.
“Rhan fawr o’r trafodaethau yma oedd cynnig rhan sylweddol o’r clwb i’r cefnogwyr,” meddai’r perchnogion mewn datganiad.
“Mae’r perchnogion wedi dweud sawl gwaith eu bod nhw’n gobeithio gwerthu’r clwb i gonsortiwm sy’n cynnwys y cefnogwyr.
“Mae’r perchnogion am werthu’r clwb i grŵp fydd o fudd i’r clwb yn y tymor hir.”