Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi ymateb i sïon fod Barcelona yn awyddus i’w arwyddo gan ddweud ei fod yn hapus â Tottenham.

Mae’r Cymro yn cael ei ystyried ymysg talentau mwyaf cyffrous y byd ar hyn o bryd, ar ôl tymor gwych gyda Spurs.

Mae rhai o gewri pêl droed Ewrop, gan gynnwys Barcelona, wedi dangos diddordeb yn arwyddo Bale dros yr haf.

Mae Tottenham yn mynnu na fydd y Cymro, sydd â chytundeb gyda’r clwb tan 2014, yn gadael White Hart Lane ar ddiwedd y tymor.

“Ar hyn o bryd rwy’n hapus gyda Tottenham. Rwy’n mwynhau fy mhêl droed yma ac rwy’n gobeithio gwella,” meddai Gareth Bale.

Mae Bale wedi dweud ei fod yn edmygu steil Barcelona ond na fyddai Tottenham yn ofni eu hwynebu nhw yn rownd wyth olaf Cynghrair y Pencampwyr.

“Mae Barca yn chwarae pêl droed gwych ar hyn o bryd. Maen nhw’n dangos eu bod nhw’n dîm da bob wythnos,” meddai.

“Ond d’yn ni ddim yn ofni heb – does dim pwysau arnom ni. Rwy’n credu bod rhaid i ni chwarae ein steil ni heb unrhyw nerfau a dangos pa mor dda ydyn ni.”