Y Cae Ras (llun o wefan clwb Wrecsam)
Mae cyn-chwaraewr Wrecsam, Ashley Ward, wedi dweud ei fod yn bwriadu prynu’r clwb yn dilyn trafodaethau gyda’r perchnogion.

Mae cyn-ymosodwr Man City a Blackburn Rovers yn gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.

Ar hyn o bryd mae ei dîm cyfreithiol yn ymchwilio i sefyllfa ariannol y clwb, yn y gobaith o wneud cynnig swyddogol amdano.

Fe fydd ai ei gynnig yn cystadlu â chonsortiwm o dan arweiniad y ddynes busnes Stephanie Booth.

Mae Stephanie Booth bellach wedi dweud nad ydi perchnogion presennol y Cae Ras yn ffafrio ei chynnig hi i brynu’r clwb.

Ond mae Ashley Ward yn dweud bod Geoff Moss ac Ian Roberts wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n ffafrio un cynnig yn fwy na’r llall.

“Mae hi’n ddyddiau cynnar eto ond rwy’n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad swyddogol yn fuan,” meddai Ashley Ward.

“R’yn ni wedi cynnal trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a’r cyngor lleol, ac yn credu bod y grwpiau yma’n allweddol i lwyddiant y clwb yn y dyfodol.

“Mae hefyd yn bwysig bod y stadiwm yn parhau i fod yn nwylo’r clwb.”

Dechreuodd Ashley Ward ei yrfa gyda’r Dreigiau cyn treulio cyfnod gydag amryw o glybiau gan gynnwys Caerlŷr, Blackpool, Norwich, Derby, a Bradford.

“Fe chwaraeais fy ngêm gyntaf yn y gynghrair pêl droed dros Wrecsam,” meddai.

“Mae gen i lot o barch at y clwb ac yn gobeithio eu harwain nhw i’r Bencampwriaeth.”