Mae’r heddlu wedi ail ryddhau lluniau o chwe pherson y maen nhw’n awyddus i siarad â nhw yn dilyn anrhefn ar ddiwedd gêm Cwpan yr FA rhwng Chelsea a Chaerdydd y llynedd.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw eisoes wedi cyhuddo 96 o bobol mewn cysylltiad â’r trais, a bod 59 ohonynt wedi eu cael yn euog.
Cafodd y gêm ei chynnal yn Stamford Bridge ar 13 Chwefror y llynedd. Dechreuodd y gwrthdaro yn ardal West Brompton ar ôl i dri bws llawn o gefnogwyr Caerdydd gael eu gadael ger lle’r oedd tua 100 o gefnogwyr Chelsea wedi ymgynnull.
Fe gafodd cefnogwyr y ddau glwb eu rhannu cyn iddynt deithio i’r stadiwm ar gyfer y gêm.
Yn dilyn y gêm roedd rhai cefnogwyr wedi teithio draw i King’s Road, ac fe fu tua 200 o bobl yn rhan o’r gwrthdaro yno. Yn ystod y digwyddiad fe gafodd sawl heddwas eu hanafu.
“Mae’r ymchwiliad wedi bod yn un llwyddiannus ac mae nifer fawr o bobl wedi cael eu cyhuddo, ond r’yn ni’n parhau i geisio dod o hyd i’r gweddill,” meddai Ditectif Uwch-arolygydd William Lyle.
“R’yn ni’n benderfynol y dylai pêl-droed fod yn ddiogel i deuluoedd ac r’yn ni’n awyddus i siarad gyda’r chwe unigolyn sydd yn y lluniau.”
Mae heddlu wedi dweud y dylai unrhyw sydd â gwybodaeth ynglŷn â beth ddigwyddodd gysylltu gyda nhw ar 020 8246 2712 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.