Abertawe 2–0 Huddersfield    
                                                      

Roedd buddugoliaeth gartref gyntaf y tymor i Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth i Huddersfield ymweld â’r Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Tammy Abraham ddwy waith o bobtu’r egwyl i sicrhau tri phwynt sydd yn codi’r Elyrch allan o safleoedd y gwymp.

Manteisiodd Abertawe ar gamgymeriad gwael gan gôl-geidwad Huddersfield i fynd ar y blaen dri munud cyn yr egwyl. Ciciodd Jonas Lossl y bêl yn syth i Tom Carroll, daeth yntau o hyd i Abraham a daeth y blaenwr o hyd i gefn y rhwyd.

Sgoriodd Abraham ei ail ef ac ail ei dîm dri munud ar ôl troi, Jordan Ayew yn codi’r bêl dros Lossl ac Abraham wrth law i rwydo eto.

Mwynhaodd yr ymwelwyr ddigon o’r meddiant cyn ac ar ôl y ddwy gôl ond llwyddodd yr Elyrch i amddiffyn yn gymharol gyfforddus i sicrhau eu buddugoliaeth gartref gyntaf o’r tymor.

Mae’r tri phwynt yn eu codi allan o’r tri isaf ac i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer (Ki Sung-yueng 73’), Britton (Clucas 84’), Carroll, Narsingh (Dyer 76’), Ayew, Abraham

Goliau: Abraham 42’, 48’

Cerdyn Melyn: Fer 2’

.

Huddersfield

Tîm: Lossl, Smith, Jorgensen, Schindler, Malone (Lowe 81’), Hogg (Mooy 45’), Billing (Williams 60’), Kachunga, Ince, van La Parra, Depoitre

Cardiau Melyn: Schindler 25’ Smith 45’, Hogg 45’, Jorgansen 45’, La Parra 66’

.

Torf: 20,657