Sunderland 1–2 Caerdydd    
                                                          

Cipiodd cic o’r smotyn Joe Ralls y tri phwynt i Gaerdydd wrth iddynt deithio i’r Stadium of Light i herio Sunderland yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Un gôl yr un oedd hi cyn i Ralls rwydo o ddeuddeg llath i ennill y gêm i’r Adar Gleision ddeunaw munud o’r diwedd.

Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Craig Bryson yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen yn dilyn cic hir o’r cefn gan y gôl-geidwad, Neil Etheridge.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Sunderland yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i Lyndon Gooch rwydo o’r smotyn wedi i Sean Morrison atal ei rediad yn y cwrt cosbi.

Gwnaeth Morrison yn iawn am ildio cic o’r smotyn serch hynny wrth ennill un i’w dîm pan gafodd ei lorio gan Lamine Kone.

Ralls a gymerodd y gic gan ddod o hyd i gefn y rhwyd ac ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Neil Warnock yn drydydd yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Sunderland

Tîm: Ruiter, Browning, Kone, Wilson, Matthews, Ndong (Asoro 79’), Cattermole, Oviedo (Robson 79’), Honeyman (McGeady 60’), Gooch, Vaughan

Gôl: Gooch [c.o.s.] 53’

Cardiau Melyn: Cattermole 11’, Browning 70’, Kone 73’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Richards, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson, Ralls, Bryson, Feeney, Zohore (Bogle 85’), Mendez-Laing (Hoilett 68’)

Goliau: Bryson 7’, Ralls [c.o.s.] 73’

Cardiau Melyn: Richards 17’, Gunnarsson 60’, Ralls 80’

.

Torf: 25,733