Abertawe 1–2 Watford    
                                                                

Cipiodd Watford fuddugoliaeth gyda gôl funud olaf wrth iddynt ymweld â’r Liberty i wynebu Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Wedi bod ar ei hôl hi ar yr egwyl fe frwydrodd yr Elyrch yn ôl i unioni pethau yn yr ail hanner cyn i’r ymwelwyr gipio’r tri phwynt gyda gôl hwyr Richarlison.

Manteisiodd Andre Gray ar amddiffyn blêr gan Abertawe i roi Watford ar y blaen wedi deuddeg munud ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Gwnaeth Paul Clement ddau newid ar yr egwyl ac roedd ei dîm dipyn gwell yn yr ail hanner.

Roeddynt yn gyfartal o fewn deg munud diolch i un o’r eilyddion hynny, Tammy Abraham yn rhwydo wedi i Heurelho Gomes arbed ergyd wreiddiol Wilfried Bony.

Cafodd yr Elyrch ddigon o’r meddiant wedi hynny heb greu llawer o gyfleoedd clir o flaen gôl.

A chawsant eu cosbi yn y munud olaf wrth i Richarlson fanteisio ar ragor o amddiffyn gwan i dorri’n rhydd ac ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe’n bymthegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair wedi chwe gêm.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, van der Hoorn (Abraham 45’), Fernandez, Mawson, Naughton, Fer, Clucas (Mesa 45’), Carroll, Olsson, Ayew, Bony (Renato Sanches 85’)

Gôl: Abraham 56’

Cerdyn Melyn: Bony 82’

.

Watford

Tîm: Gomes, Femenia, Mariappa, Kabasele, Holebas, Doucoure, Capoue (Wague 45’), Carrillo (Pereyra 74’), Cleverley, Richarlison, Gray (Deeney 86’)

Goliau: Gray 13’, Richarlison 90’

Cardiau Melyn: Capoue 34’, Doucoure 45’, Richarlison 90’

.

Torf: 20,372