Ar ôl i dîm pêl-droed Abertawe guro Crystal Palace o 2-0 ym Mharc Selhurst brynhawn ddoe, dywedodd y chwaraewr canol cae Sam Clucas ei fod e’n “teimlo’n gartrefol” yng Nghymru.
Mae’r chwaraewr 26 oed, sy’n enedigol o Lincoln, newydd symud o Hull ac fe greodd ei gryn argraff yn ei gêm gyntaf.
Dywedodd e ar ôl y gêm ddoe ei fod e “wedi cael hwb mawr” o gael ei gynnwys yn y tîm ddyddiau’n unig ar ôl ymuno â’r Elyrch.
“Ro’n i ychydig yn nerfus, fel ydw i bob amser ar gyfer fy ngêm gyntaf, ond fe wnes i fwynhau, yn sicr.
“Mae’r ffordd mae’r tîm yn chwarae pêl-droed yn fy siwtio ac roedd hi’n wych cael ennill yn fy ngêm gyntaf.”
Ymgartrefu
Ycwhanegodd: “Dw i wedi ymgartrefu’n dda iawn, ac mae’r clod am hynny i’r bois a’r staff yn y clwb pêl-droed.
“Ers i fi gyrraedd, mae pawb wedi bod yn wych ac wedi fy nghroesawu fi.
“Yn wir, mae holl bobol Cymru wedi bod yn hyfryd i fi – ac mae’n teimlo fel ’mod i gartref eisoes.”