Mae’r Cymro Nathan Cleverly wedi colli ei wregys WBA ar ôl cael ei guro yn ei ornest pwysau is-drwm yn erbyn Badou Jack yn Las Vegas neithiwr.
Fe ddechreuodd yn gadarn, ond roedd e dan bwysau erbyn diwedd yr ail rownd ac fe barhaodd hynny tan y diwedd, wrth i’r dyfarnwr ddod â’r ornest i ben ar ddiwedd y pumed rownd.
Roedd yr ornest yn rhan o gerdyn Floyd Mayweather a Conor McGregor, sy’n cael ei hystyried yn un o’r gornestau mwyaf erioed.
Roedd pryderon cyn gornest Nathan Cleverly na fyddai’n cyrraedd y pwysau angenrheidiol er mwyn ymladd.
Hon oedd y pedwerydd tro i’r Cymro, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, golli gornest.
Wedi torri ei drwyn
Yn ôl Nathan Cleverly, fe wnaeth e dorri ei drwyn yn ystod yr ornest.
“Roedd Jack [Badou] yn gryf iawn. Fe ddaliodd fi a thorri fy nhrwyn.
“Roedd popeth ar i lawr ar ôl hynny. Ro’n i wedi ‘nghlwyfo ac yn amddiffyn fy hun.”
Ond fe ddywedodd fod y dyfarnwr wedi atal yr ornest “yn rhy gynnar”.