Mae Clwb Pêl-droed Livingston yn yr Alban wedi penodi John Hartson i’w tîm hyfforddi.

Bydd y Cymro Cymraeg o Abertawe’n gyfrifol am hyfforddi ymosodwyr y clwb, a hynny un neu ddau ddiwrnod yr wythnos.

Dywedodd y clwb ar eu gwefan: “Mae’r clwb wrth eu bodd fod rhywun o dras bêl-droed John Hartson wedi cytuno i dreulio’i amser yn y Tony Macaroni Arena, gan drosglwyddo ei wybodaeth arwyddocaol i’n chwaraewyr yn y llinell flaen.”

Chwaraeodd John Hartson 51 o weithiau dros Gymru, gan sgorio 14 o goliau.

Yn ystod ei yrfa, fe gynrychiolodd glybiau Glasgow Celtic, West Brom, Wimbledon, Coventry, West Ham, Arsenal a Luton.

Roedd e’n hyfforddi ymosodwyr Cymru am gyfnod, ac fe geisiodd am y brif swydd pan gafodd Gary Speed ei benodi.