Paul Clement - yn falch o'r hwb i hyder y tim
Mae tîm pêl-droed Abertawe wedi cyrraedd trydedd rownd Cwpan Carabao ar ôl perfformiad cryf i guro’r MK Dons oddi cartref o 4-1 neithiwr.
Ond fe gollodd Casnewydd o 5-1 yn Leeds ac fe gafodd Caerdydd eu curo gartre’ o 1-2 gan Burton.
Dyma’r tro cynta’r tymor yma i glwb y brifddinas fethu ag ennill.
Goliau ac anaf
I Abertawe, fe sgoriodd y chwaraewr canol cae Leroy Fer ddwy gôl ar ôl i’r Saeson fynd ar y blaen drwy Ryan Seager.
Rhwydodd yr ymosodwr Tammy Abraham am y tro cyntaf dros yr Elyrch cyn i Jordan Ayew selio’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm.
Ond mae cysgod tros y fuddugoliaeth gydag anaf i’r amddiffynnwr canol Kyle Bartley, oedd wedi gorfod gadael y cae ar wastad ei gefn gydag anaf i’w benglin.
‘Hyder yn bwysig’
Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd y prif hyfforddwr Paul Clement ei fod e’n awyddus i gael ymgyrch lwyddiannus yn y cwpan eleni.
“Nid y fuddugoliaeth yn unig sy’n bwysig, ond mae’n fater o ddatblygu hyder y garfan hefyd,” meddai ar ôl i Abertawe gael cweir o 4-0 yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn.
“R’yn ni’n dal i weithio ar integreiddio chwaraewyr a rhoi amser iddyn nhw mewn gemau felly ro’n i eisiau bod yn gryf, ac ry’n ni am wneud yn dda yn y gystadleuaeth hon eleni.”
Mae hefyd wedi awgrymu bod rhagor o chwaraewyr newydd ar y ffordd i ychwanegu at y chwaraewr canol cae, Sam Clucas o Hull.