Owen James ar y blaen
Mae’n waith caled ennill eich lle ar ‘Grand Tours’ y byd seiclo – ond mae un beiciwr o Sir Gâr wedi symud i’r cyfandir er mwyn ceisio gwireddu ei freuddwyd.
Un o Glan-y-fferi, rhwng Caerfyrddin a Chydweli, ydi Owen James, 21, ac mae’n beicio i dîm Cotes D’amour Marie Morin.
“Roedd fy nhad yn ddylanwad mawr arna’ i pan o’n i’n ifanc, roedd yn rasio ei hun ar lefel uchel, roedd yn mynd â fy mrawd a finnau i wylio’r Tour de France, felly oedd yn naturiol i mi ei ddilyn i’r byd seiclo,” meddai Owen James wrth golwg360.
“Mi wnes ymuno â Towy Wheelers, a wnes rasio am y tro gyntaf ar drac lleol yng Nghaerfyrddin yn unarddeg oed. Ro’n i wedi gwirioni. Ro’n i’n hoff o feicio mynydd ar yr adeg, ond wedyn mi wnes bendefynu canolbwyntio ar y trac a’r ffordd a chystadlu yn y gyfres genedlaethol.
“Ro’n i’n ffodus i gael mynd dramor i rasio â Chymru mewn rasys Union Cycliste Internationale.”
Cefnogaeth ariannol
Mae nifer o feicwyr ifanc dros y blynyddoedd wedi bod yn ddiolchgar i Gronfa Dave Rayner, a gafodd ei sefydlu i helpu beicwyr ifanc ar y cyfandir.
Mae’n cael ei weld fel ffordd o gefnogi beicwyr ifanc talentog i wireddu eu breuddwydion. Roedd Dave Rayner yn feiciwr talentog ei hun cyn ei farwolaeth yn 1995.
“Mae’r cefnogaeth gan y gronfa wedi bod yn gymorth, hebddyn nhw dwi tybio na fyddwn yn gallu rasio dramor. Cyn i’r tymor ddechrau rwy’n helpu fy ffrind sy’n adeiladu.
“Mae’n braf i gael swydd normal a chadw’n brysur pan rwyf ddim yn ymarfer, mae’r gwaith adeiladu yn ddelfrydol i gadw’n heini pan dw i ddim yn rasio. Rwy’n ffodus bod gen i ffrind yn Ffrainc sydd â nifer o gysylltiadau.
“Ym mis Medi 2016, mi alwodd ac egluro bod ganddo dîm â diddordeb ynof fi, felly oedd dim dewis ond i fynd i Ffrainc. Rwy’n byw yn nhref Yffiniac yng ngogledd Llydaw,” meddai.
Rasio… a bara brith mam
“Gefais ddechrau da i’r tymor yn cael canlyniadau a gweithio’n galed i’r tîm. Rwy’n sicr fy mod wedi ennill parch y beicwyr eraill.
“Does dim prinder rasio dramor, a dw i wedi bod yn rasio o leiaf dair ras yr wythnos ers Chwefror, ond mae Gorffennaf ac Awst wedi bod yn hunllef.
“Rwy’ i wedi bod â firws am dair wythnos, ond o leia’ fe ges i ddod adre’ bryd hynny a chael bara brith mam!”