Alan Curtis (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Fe fydd un o fawrion Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis yn gwisgo’r crys unwaith eto ar gyfer gêm dysteb y cyn-amddiffynnwr Alan Tate ar Awst 9.
Y cyn-brif hyfforddwr yw’r enw diweddaraf i gael ei gadarnhau ar gyfer y gêm yn erbyn Man U yn Stadiwm Liberty.
Mae ei gysylltiad ag Abertawe’n ymestyn dros nifer o ddegawdau, ac yntau’n chwaraewr blaenllaw yn y tîm a gafodd ddyrchafiad o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf mewn pedwar tymor o dan John Toshack rhwng diwedd y 1970au a dechrau’r 1980au.
Bellach, fe yw rheolwr chwaraewyr ar fenthyg y clwb ar ôl cael ei symud o’r tîm hyfforddi gan y prif hyfforddwr presennol, Paul Clement.
Y gêm
Fe fydd Alan Curtis yn ymuno â llu o gyn-sêr yr Elyrch ar gyfer gêm yn erbyn cyn-glwb arall Alan Tate, Man U – a’r tîm hwnnw’n cael ei ddewis gan Darren Fletcher.
Y rhai sydd eisoes wedi’u cadarnhau mae’r cyn-reolwyr Garry Monk a Roberto Martinez, capten y clwb Leon Britton, Andy Robinson, Lee Trundle, James Thomas, John Williams, Adrian Forbes, Roger Freestone, Angel Rangel a Ferrie Bodde.
Y cyn-reolwyr Brendan Rodgers a Brian Flynn fydd yng ngofal y tîm.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm ar werth yn Stadiwm Liberty. £12 yw pris tocynnau i oedolion, a £6 i blant.