Mae’r ddau Gymro, Lukas Carey a Tom Cullen wedi’u hychwanegu at garfan criced Morgannwg ar gyfer y daith i Gaergaint i herio Swydd Gaint yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast heddiw.

Mae Ruaidhri Smith hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan yn dilyn ei berfformiadau diweddar i’r ail dîm.

Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn gemau oddi cartref yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, ar ôl iddyn nhw drechu Swydd Essex, Swydd Sussex a Swydd Gaerloyw.

Maen nhw ar frig y tabl ar hyn o bryd er bod pedair gêm gartref wedi’u heffeithio gan y glaw.

Enillodd Swydd Gaint eu gêm ddiweddaraf yn erbyn Gwlad yr Haf nos Iau, ond maen nhw’n seithfed yn y tabl.

Y tro diwethaf i Forgannwg deithio i Swydd Gaint ar gyfer gêm ugain pelawd, roedden nhw’n fuddugol o un rhediad ar gae Tunbridge Wells, wrth i’r chwaraewr amryddawn Graham Wagg daro hanner canred.

Dywedodd Graham Wagg: “Dw i’n gwybod beth yw fy rôl i yn y tîm, yn dod i mewn ar ôl hyn a hyn o belawdau ac mae Cooky [Chris Cooke] yn gwneud rhywbeth tebyg.

“Gobeithio bod rhagor i ddod gen i, dw i’n teimlo bod gyda fi dipyn i’w roi o hyd.”

Carfan Swydd Gaint: D Bell-Drummond, J Denly, S Northeast (capten), S Billings, J Neesham, A Blake, S Dickson, D Stevens, C Haggett, M Coles, J Tredwell, M Claydon, Imran Qayyum

Carfan Morgannwg: J Rudolph (c), L Carey, C Cooke, T Cullen, M De Lange, A Donald, M Hogan, C Ingram, C Meschede, D Miller, A Salter, N Selman, R Smith, T van der Gugten, G Wagg

Sgorfwrdd