Fe fydd dyfodol ymosodwr Abertawe, Gylfi Sigurdsson yn cael ei ddatrys ymhell cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, yn ôl prif hyfforddwr y clwb, Paul Clement.
Dydy’r chwaraewr o Wlad yr Iâ ddim wedi chwarae yn yr un o gemau paratoadol ei glwb wrth i’r dyfalu ynghylch ei ddyfodol barhau.
Mae’r Elyrch eisoes wedi gwrthod dau gynnig o £40 miliwn amdano fe gan Everton a Chaerlŷr, gan fynnu eu bod nhw eisiau o leiaf £50 miliwn ac na fyddan nhw’n cael eu “bwlio” i’w werthu am lai na hynny.
A doedd e ddim yn y tîm ar gyfer y daith i Birmingham brynhawn ddoe, wrth i’r Elyrch ennill o 2-0.
Ar ôl y fuddugoliaeth yn St. Andrew’s ddoe, dywedodd Paul Clement ei fod e wedi penderfynu na fyddai Gylfi Sigurdsson yn cael ei ddewis am y tro “er lles pawb”.
“Dyw hyn ddim yn rhywbeth ry’n ni eisiau, a fyddwn ni ddim yn ei lusgo allan tan y dyddiad cau. Fydd e ddim yn parhau tan ddiwedd y ffenest.
“Mae hyn yn rhywbeth ry’n ni am ei ddatrys cyn gynted â phosib.”
‘Dim cais i adael’
Cadarnhaodd Paul Clement y byddai’r chwaraewr yn dechrau ymarfer unwaith eto ddydd Llun, er ei fod e wedi tynnu’n ôl o’r daith baratoadol i’r Unol Daleithiau.
Yn ôl y prif hyfforddwr, dydy Gylfi Sigurdsson ddim wedi gwneud cais i adael y clwb, er ei fod e’n awyddus i symud i Everton.
Sgoriodd Leroy Fer ac ymosodwr newydd y clwb, Tammy Abraham brynhawn ddoe wrth i’r Elyrch guro Birmingham.