Fe fydd y gêm gyfeillgar rhwng Abertawe a’r cewri o’r Eidal, Sampdoria, yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn nesaf.

Yr ornest yn Stadiwm Liberty fydd y gêm olaf cyn i’r Elyrch ddechrau eu hymgyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos wedyn gyda thaith i Southampton.

Fe fydd John Hartson a Dai Davies yn ymuno â Dylan Ebenezer yn y stiwdio; Nicky John ar ochr y cae, a Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu.

Yn ymuno â Mark Jones am y sylwebaeth Saesneg ar y gwasanaeth botwm coch a gwasanaethau sain eraill fe fydd Cameron Toshack, hyfforddwr llwyddiannus tîm dan 23 Abertawe. Mae ganddo gysylltiad agos â’r Elyrch ers oes aur y clwb yn yr 1980au dan arweiniad ei dad, John Toshack.

“Rydym yn falch iawn ein bod yn dangos y gêm bwysig hon,” meddai Llion Iwan, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C.

“Bydd diddordeb mawr yn y gêm ymysg cefnogwyr pêl-droed fydd yn awyddus i weld sut mae carfan Paul Clement yn perfformio ar ddechrau ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw. Mae Sampdoria yn glwb ag iddo hanes disglair a thîm sy’n gwybod sut i oroesi a ffynnu yn Serie A ac fe fyddan nhw’n her anodd i’r Elyrch.”

Sgorio: Abertawe v Sampdoria

S4C, Sadwrn, 5 Awst, 5.00pm, cic gyntaf 5.15pm