Fe fydd rhai o fawrion timau pêl-droed Abertawe a Man U yn dod ynghyd yn Stadiwm Liberty ar Awst 9 i anrhydeddu’r cyn-amddiffynnwr Alan Tate.
Gyda’r ddau glwb hyn y treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa 13 blynedd, ac mae e’n un o griw dethol o dri o chwaraewyr – gan gynnwys Leon Britton a Garry Monk – sydd wedi cynrychioli’r tîm ym mhob adran.
Fe ei hun fydd yn dewis tîm Abertawe, ac mae e eisoes wedi cadarnhau’r ddau enw cyntaf fydd yn ymddangos.
Sgoriodd James Thomas o Dreforys hat-tric yn erbyn Hull ym mis Mai 2003 i achub yr Elyrch rhag cwympo allan o’r Gynghrair Bêl-droed wrth iddyn nhw ennill o 4-2.
Sgoriodd e 16 gôl mewn 57 o gemau yn y gynghrair i’r Elyrch, ond fe ddaeth ei yrfa i ben pan anafodd ei ben-glin yn 2005.
Sgoriodd Adrian Forbes y gôl olaf erioed ar gae’r Vetch cyn i’r tîm symud i Stadiwm Liberty yn 2005.
Roedd e’n aelod o’r tîm a gafodd ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor hwnnw.
Bydd tîm Man U yn cael ei ddewis gan y cyn-chwaraewr canol cae, Darren Fletcher.
Mae tocynnau ar werth am £12 i oedolion a £6 i blant drwy fynd i wefan y stadiwm neu i’r swyddfa docynnau yn Stadiwm Liberty.