Mae medalau wedi cael eu tynnu oddi ar chwaraewyr tîm pêl-droed dan 16 oed y Derwyddon Cefn.

Roedden nhw wedi ennill Cwpan Academi Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ôl curo Hwlffordd yn dilyn ciciau o’r smotyn ar Fai 1.

Ond fe ddaeth i’r amlwg eu bod nhw wedi dewis chwaraewr nad oedd wedi cael ei gofrestru ar gyfer y gêm, gan dorri rheolau’r Gymdeithas.

O ganlyniad, mae’r Derwyddon Cefn wedi cael eu diarddel o’r gystadleuaeth, sy’n golygu mai Hwlffordd yw’r pencampwyr eleni.

Mae’r clwb wedi cael gorchymyn i ddychwelyd y tlws a medalau’r chwaraewyr – a fydd yn cael eu rhoi i chwaraewyr Hwlffordd – ac maen nhw wedi cael dirwy.