Llun: Leo Smith o Borthmadog
Ar ôl i Dean Keates gael ei benodi’n rheolwr mis Hydref diwethaf roedd cefnogwyr Wrecsam wrth eu boddau a llawn gobaith ond roedd siom pan orffennodd y clwb yn safle 13.
Ar un adeg, roedden nhw mewn perygl o gael eu llusgo i drafferthion yn y gwaelodion.
Mae Keates wedi symud y rheiny nad oedd yn rhan o’i gynlluniau ymlaen ac wedi trawsnewid ei garfan yn llwyr gan ddod ag 11 chwaraewr newydd i mewn hyd yma.
Yn rhan o garfan tymor diwethaf, gyda’i gytundeb gyntaf llawn amser, mae’r chwaraewr ifanc o Borthmadog, Leo Smith, 19, yn gobeithio creu digon o argraff yn y gemau dechrau tymor i fod ar y cae yn erbyn Macclesfield yng ngêm gyntaf tymor Awst 5.
Portiwgal
Mae’r garfan yn chwarae ym Mhortiwgal nos Fawrth, 11 Gorffennaf yn erbyn Louletano FC , yn Loule yn yr Algarve. Gyda’r disgwyl i dros 500 o gefnogwyr fynd drosodd, mae Leo a’r garfan yn gwybod bod rhaid cael dechrau da i’r tymor.
“Rwyf wedi chwarae dau hanner o’r ddwy gêm gyfeillgar hyd rŵan, wnes i ddod ar y cae yn erbyn Lex a sgorio, a wnes i ddechrau’r hanner cyntaf yn erbyn Derwyddon Cefn nos Wener ddiwethaf. Gobeithio y ca’i funudau ar y cae ym Mhortiwgal, buasai’n brofiad gwahanol i mi.
“Ar ôl cael blas tymor diwethaf yn chwarae mewn ugain o gemau a sgorio fy ngôl gyntaf yn erbyn Caer Efrog mae’r rheolwr Dean Keates a’i gynorthwyydd, Carl Darlington, eisiau i fi sgorio mwy. Dwi wedi sgorio goliau trwy fy ngyrfa ond roedd y gyntaf i Wrecsam yn hir yn dod.
“Mae’r awyrgylch ers i Keates ddod i mewn wedi newid – ac mae wedi mynd i fyny safon arall ers i Darlington ymuno á’r tîm hyfforddi. Mae bob agwedd o’r ymarfer yn fwy proffesiynol gyda bob manylyn yn cael eu dadansoddi. Mae’r garfan gyda’i gilydd a phawb yn deall a gwybod y pwysigrwydd i’r clwb gael dyrchafiad. Mae’n garfan gref ac mae’n fy ngwneud i’n benderfynol i ymarfer yn galetach a chreu argraff i gael dechrau’r tymor yn y tîm.”
Tymor allweddol
Wedi arwyddo cytundeb o ddwy flynedd diwedd tymor diwethaf mae amser ar ei ochr ond mae’r hogyn o Bort yn gwybod bydd yn dymor allweddol iddo fo a’r clwb. Gorffennodd Leo tymor diwethaf yn cael ei wobrwyo gyda chwaraewr ifanc y flwyddyn, ac roedd eisiau talu teyrnged i Joey Jones wnaeth gyhoeddi wythnos diwethaf ei fod yn camu i lawr o weithio llawn amser gyda’r clwb. “Rwyf wedi bod gyda Joey ers dechrau gyda Wrecsam, ac mae o wedi bod yn wych gyda fi, dylanwad mawr. Mae wedi rhoi llawer o hyder i mi a chyngor ar y cae ac oddi ar y cae, mae gen i lot i ddiolch iddo.”
Chwaraewyr newydd sydd wedi arwyddo cytundeb am dymor 2017/18
Scott Boden
James Hurst
Shaun Pearson
James Jennings
Chris Holroyd
Sam Wedgbury
Christian Dibble
Jack Mackreth
Manny Smith
Ntumbu Massanka
Marcus Kelly