Colin Ingram wedi serennu unwaith eto (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Sgoriodd Colin Ingram 101 – y canred cyflymaf yn hanes Morgannwg mewn gemau ugain pelawd – wrth i’r Cymry guro Swydd Sussex yn Arundel o 18 o rediadau.
Hon oedd eu buddugoliaeth gyntaf yn y T20 Blast eleni.
Dim ond 46 o belenni gymerodd hi i’r batiwr o Dde Affrica gyrraedd y garreg filltir, wrth iddo fe daro wyth pedwar a saith chwech.
Adeiladodd e a’i gydwladwr Jacques Rudolph, y capten ar gyfer y gystadleuaeth, 130 oddi ar 71 o belenni – sy’n record trydedd wiced i Forgannwg a’u trydedd partneriaeth fwyaf ar gyfer unrhyw wiced, wrth i Forgannwg gyrraedd 198-3 yn eu hugain pelawd.
Sgoriodd Luke Wright 101 hefyd, ond doedd hynny ddim yn ddigon i’r Saeson ar ymweliad cyntaf y Cymry â’r castell, wrth iddyn nhw orffen y gêm ar 180-6.
Fe gyrhaeddodd ei garreg filltir yntau oddi ar 53 o belenni, gan daro pum pedwar a saith chwech.