Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwadu adroddiadau eu bod nhw wedi dod i gytundeb gydag Everton i werthu’r ymosodwr Gylfi Sigurdsson.
Mae lle i gredu bod y clwb yng Nglannau Mersi yn barod i dalu £30 miliwn am y chwaraewr o Wlad yr Iâ, ac y gallai’r trosglwyddiad gael ei gwblhau erbyn diwedd yr wythnos.
Ond mae’n debygol y bydd rhaid iddyn nhw dalu’n nes at £35 miliwn yn y pen draw i sicrhau’r trosglwyddiad.
Fe fyddai’n golygu bod gan Everton bartneriaeth ymosod newydd ar ôl i Wayne Rooney ddychwelyd yno o Man U.
Ond mae’r Elyrch yn mynnu nad yw’r trafodaethau wedi’u cwblhau eto, ac mae disgwyl i Gylfi Sigurdsson ddychwelyd i Fairwood i ymarfer gyda’r garfan yr wythnos hon.
Yn ôl adroddiadau, maen nhw’n barod i gynnig £135,000 yr wythnos i’r chwaraewr wrth iddyn nhw geisio ennill lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.