Cassia Pike o Borthmadog, Llun: Cymdeithas Bel-droed Cymru
Mae Jayne Ludlow wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer y gemau yn erbyn yr Iseldiroedd y penwythnos hwn.
Mae’r gemau yn cael eu chwarae fel rhan o baratoadau am rowndiau terfynol UEFA i ferched sy’n cael eu cynnal yn yr Iseldiroedd yn ddiweddarach yn y mis.
Mae dwy gêm, sef un A ddydd Sadwrn, Gorffennaf 8, gyda thîm arbrofol yn debygol o chwarae i dîm B y diwrnod canlynol.
Bydd yr Iseldiroedd yn dechrau’r ffeinals ar ddydd Llun, Gorffennaf 17 yn erbyn Norwy, un o’r timau wnaeth gymhwyso ar draul Cymru yn grŵp 8.
Mae’r gemau yn dilyn y ddwy gêm bositif i Gymru yn erbyn Portiwgal yn ddiweddar, gyda Chymru yn ennill un a cholli un.
“Braint”
Mae Cassia Pike, 16, o Borthmadog wedi’i chynnwys yn y garfan am y tro gyntaf ac mae’r ferch, sy’n chwarae gyda Lerpwl, yn gobeithio ennill ei chap cyntaf.
“Rwyf yn falch iawn o gael fy newis yn y garfan lawn am y tro cyntaf,” meddai wrth golwg360.
“Rwy’n gobeithio y bydda’ i yn cael mynd ar y cae yn y gêm ddydd Sadwrn i ennill cap. Bydd yn fraint os ydw i’n cael cap cyntaf.
“Ond y peth pwysicaf ydi creu argraff ar y tîm rheoli. Rydan ni’n nabod rhai o’r chwaraewyr o’r Iseldiroedd, a dw i’n edrych ymlaen at yr her o’u wynebu nhw.
“Dw i’n gwybod bod parch mawr atyn nhw ar y lefel ryngwladol.”
Mae Cassia Pike ar lyfrau Lerpwl, ac mae wedi cynrychioli ei gwlad o dan-15, o dan-16 ac o dan-17 ac mae wedi bod gyda’r garfan o dan-19 yn ddiweddar.
Mae’n gallu chwarae fel ymosodwr neu ar unrhyw asgell.
Mae Shanice van de Sanden, sy’n chwarae ei phêl-droed gyda Natasha Harding a Sophie Ingle yn Lerpwl, yng ngharfan yr Iseldiroedd ac mae’r capten Mandy van den Berg yn chwarae yn Reading FC gyda Charlie Estcourt, Melissa Fletcher a Rachel Rowe.
Y garfan
CLAIRE SKINNER – Merched ASTON VILLA
LAURA O’SULLIVAN – Merched CAERDYDD
LOREN DYKES – Merched BRYSTE
HANNAH MILES – Merched CAERDYDD
HAYLEY LADD – Merched BRYSTE
SOPHIE INGLE – Merched LERPWL
GEMMA EVANS – Merched CAERDYDD
SHAUNNA JENKINS – Merched CAERDYDD
CHLOE CHIVERS – Merched CAERDYDD
ANGHARAD JAMES – Merched Tref YEOVIL
CHLOE LLOYD – Merched CAERDYDD
BRONWEN THOMAS – BRIGHTON & HOVE ALBION FC
GEORGIA EVANS – Merched BRYSTE
NADIA LAWRENCE – Merched Tref YEOVIL
ALICE GRIFFITHS – Merched CYNCOED
NATASHA HARDING – Merched LERPWL
KAYLEIGH GREEN – heb fod ynghlwm
MELISSA FLETCHER – Merched READING FC
RHIANNON ROBERTS – DONCASTER ROVERS BELLES FC
PEYTON VINCZE – OKLAHOMA FC
FFION MORGAN – Merched CAERDYDD
GWENNAN DAVIES – Merched CYNCOED
AMINA VINE – Merched BRYSTE
CASSIA PIKE – Merched LERPWL
LILY WOODHAM – Merched BRYSTE
ELISE HUGHES – Merched EVERTON
Gemau
Yr Iseldiroedd v Cymru
Sadwrn, Gorffennaf 8, 2017
16:00
Sparta Stadium, Rotterdam
Yr Iseldiroedd v Cymru (Tím B)
Dydd Sul, 9 Gorffennaf
13.00
KNVB Campus, Zeist