Don Shepherd (ar y dde) yn cyflwyno tlws i Graham Wagg yn rhinwedd ei swydd yn Llywydd Orielwyr San Helen (Llun: golwg360)
Mae cyfraniad y Cymro Don Shepherd i’r broses o sefydlu cymdeithas i gynrychioli cricedwyr proffesiynol yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ddathlu yn ystod Gŵyl Griced Cheltenham heddiw.
Roedd cyn-droellwr Morgannwg yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cricedwyr yn swyddfeydd y Daily Express yn Fleet Street yn Llundain ym mis Medi 1967, ynghyd â Fred Rumsey, Eric Russell a Mike Smedley a’r cyfrifydd Harold Goldblatt.
Ar y pryd, roedd cyflogau cricedwyr yn is na’r cyflog cenedlaethol cyfartalog, cytundebau’n para chwe mis yn unig, doedd dim sicrwydd o gael gwaith yn ystod misoedd y gaeaf a doedd dim cynlluniau pensiwn nac yswiriant ar eu cyfer.
Cafodd sylfaenwyr y gymdeithas eu hysbrydoli gan Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol wrth iddyn nhw geisio amodau gwell ar gyfer cricedwyr.
Bydd cyfraniad y pedwar sylfaenydd a nifer o unigolion eraill yn cael ei ddathlu ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth rhwng Swydd Gaerloyw a Morgannwg, yn ystod Cinio Blynyddol Cyn-chwaraewyr Clwb Criced Swydd Gaerloyw.
‘Dyled fawr’
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, David Leatherdale: “Mae ar gricedwyr cyfredol ddyled fawr i’r sawl oedd wedi gweithio mor galed i sefydlu’r hyn a ddaeth yn Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol hanner canrif yn ôl.
“Fyddai’r cyfan oll ddim wedi bod yn bosib heb ddyfalbarhad y rhai oedd wedi ymateb i lythyr Fred Rumsey ac wedi mynychu’r cyfarfod cyntaf.
“Ry’n ni wrth ein boddau fod Fred, Eric, Don, Mike a Harold yn gallu ymuno â ni yn Cheltenham lle byddwn ni’n talu teyrnged i’w cyfraniadau i’r PCA, dathlu’r sylfaenwyr eraill sy’n methu ymuno â ni a chofio Jack Bannister, Ian Buxton, Danny Livingstone, Arthur Milton a David Sayer.”
Blwyddyn Waddol y PCA
I nodi hanner canmlwyddiant y PCA, mae apêl wedi’i lansio i godi £250,000 ar gyfer Cronfa Les y PCA a gafodd ei sefydlu yn 2000.
Mae’r gronfa’n cynnig cymorth i gricedwyr y presennol a’r gorffennol a’u teuluoedd wrth iddyn nhw geisio addasu i fywyd y tu hwnt i’r byd criced.