Geraint Thomas (Llun: O wefan Sky)
Mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd wedi galw’i lwyddiant yn y Tour de France hyd yn hyn yn “freuddwyd imi.”
Mewn cyfweliad â’r wasg dywedodd Geraint Thomas “na allai pethau fod wedi mynd yn well.”
Geraint Thomas yw’r Cymro cyntaf erioed i wisgo’r crys melyn, a dyma oedd y dechrau gorau eto i dîm Sky oedd â phedwar yn yr wyth cyntaf lle’r oedd Chris Froome yn ail i Geraint Thomas ar ddiwedd y trydydd cymal.
“Mae cael y crys o’r dechrau yn fantais enfawr,” meddai Geraint Thomas.
“Mae’n rhoi inni’r rhyddid i reidio ar y blaen heb weithio’n rhy galed i’w amddiffyn.”
“Mae dal yn ffordd bell i Baris, mae dal 18 diwrnod i fynd, ond mae’n ddechrau da ac yn amlwg yn freuddwyd imi. Gallai pethau ddim fod wedi mynd yn well,” meddai.
Er hyn, mae dadl wedi codi am reolau aero-deinamig cit tîm Sky. Ond yn ôl pennaeth y tîm, David Brailsford: “rwyf wedi fy synnu achos rydym wedi beicio yn y siwt yna ers Mai…Gwnaeth neb grybwyll y peth. Does yr un tîm arall wedi ei godi tan nawr.”