Cwympodd 25 o wicedi ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth rhwng Swydd Gaerloyw a Morgannwg heddiw.

Ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd ymchwiliad i gyflwr y cae sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Gŵyl Griced Cheltenham ar gaeau’r coleg.

Cafodd Morgannwg eu gwahodd i fatio, a chael eu bowlio allan am 117 – Aneurin Donald oedd y prif sgoriwr yn y batiad gyda 39, wrth i David Payne gipio tair wiced, a dwy yr un i Liam Norwell, Craig Miles a Kieran Noema-Barnett.

Kieran Noema-Barnett oedd prif sgoriwr Swydd Gaerloyw gyda 34, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 141 i roi mantais batiad cyntaf iddyn nhw o 24.

Roedd tair wiced yr un i Marchant de Lange, Timm van der Gugten a Michael Hogan, a Graham Wagg yn cipio’r llall.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 59-5, 35 o rediadau ar y blaen i’r Saeson.

Sgorfwrdd