Aeron Edwards Llun: Y Seintiau Newydd
Mae  carfan y Seintiau Newydd wedi cyrraedd Portiwgal  yn barod am yr ail gymal o’r gêm ragbrofol  cynghrair Ewrop yn erbyn Europa FC o Gibraltar nos Fawrth,  4 Gorffennaf.

Wedi colli’r cymal cyntaf 1-2 gartref nos Fawrth diwethaf mae dipyn o bwysau ar y tîm rheoli newydd, Scott Ruscoe a Steve Evans.

Mae’r chwaraewr canol cae, Aeron Edwards yn ffyddiog y gall y Seintiau barhau i fynd drwodd i’r ail rownd ragbrofol: “Roedden ni’n siomedig ar ôl y gêm nos Fawrth,” meddai wrth Golwg360, “ond rydan ni dal yn y gêm, roedden nhw gyntaf i bob pêl, wnaethon ni jyst ddim chwarae ein gêm  arferol.

“Roedden ni wedi paratoi, ac roedden ni’n gwybod eu bod nhw well tîm nag oedd y wasg yn meddwl. Maen nhw wedi prynu chwaraewyr am dipyn o bres.

“Bydd rhaid i ni fynd amdani ond peidio ildio gôl arall iddyn nhw – hefyd mae’r gêm yn cael ei chwarae ym Mhortiwgal felly does dim mantais i neb, dwi’n meddwl.

“Rydan ni heb feddwl am dymor nesa eto ond yn canolbwyntio ar y gêm hon, mae’n rhaid i ni fynd drwodd, bydd tipyn o siom os ydan ni’n methu. Rydan ni wedi mynd drwodd i’r ail rownd ragbrofol  yn y pum tymor diwethaf.”

Fe enillodd Europa FC gynghrair Gibraltar am y tro cyntaf ers 1952 i ddod i ben rhediad Lincoln Red Imps o ennill y gynghrair 14 o weithiai’n olynol.

Mae’r gêm yn cael ei chwarae ym Mhortiwgal oherwydd bod Stadiwm Victoria, Gibraltar wedi methu asesiad UEFA. Bydd yr enillydd yn chware HNK Rijeka o Groatia yn yr ail rownd ragbrofol.