Ar ôl arbrofi gyda’r bêl binc a’r llifoleuadau’r wythnos ddiwethaf, mae capten Morgannwg Michael Hogan wedi galw am welliant ym mherfformiadau ei dîm yn y Bencampwriaeth.

Maen nhw’n teithio i Cheltenham heddiw i wynebu Swydd Gaerloyw ar gae’r coleg yn eu gêm pedwar diwrnod olaf cyn i’r gystadleuaeth ugain pelawd ddechrau.

Roedd Morgannwg yn ddi-guro mewn pum gêm ar draws yr holl gystadlaethau, gan gynnwys gêm gyfartal yn erbyn Swydd Nottingham a buddugoliaethau dros Swydd Durham a Swydd Gaerwrangon yn y Bencampwriaeth.

Ond fe gollon nhw o 39 o rediadau yn erbyn Swydd Derby wrth i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr arbrofi gyda dull newydd o griced, fydd yn gweld Lloegr yn herio India’r Gorllewin yn Edgbaston rhwng Awst 17-21.

Cheltenham yn y gorffennol

Os yw Morgannwg yn targedu’r gêm hon i sicrhau gwelliant yn y Bencampwriaeth, yna mae hanes o’u plaid nhw.

Cawson nhw fuddugoliaeth o 176 o rediadau y tro diwethaf iddyn nhw chwarae ar y cae yn 2010, wrth i’r prif hyfforddwr presennol, Robert Croft gipio hat-tric i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Roedd y timau’n gyfartal yn 1991, a Morgannwg yn fuddugol yn 2002 ac yn 2006 pan darodd Mike Powell 299 – yr ail sgôr uchaf yn hanes y sir, ac 19 o rediadau’n brin o’r 318 heb fod allan sgoriodd yr anfarwol W.G. Grace ar yr un cae yn 1876.

Galw am welliant

Wrth alw am welliant yn y Bencampwriaeth, dywedodd y capten yn y Bencampwriaeth, Michael Hogan fod ei dîm “yn barod i chwarae”.

“Mae Swydd Gaerloyw’n dîm da ac felly, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cystadlu yn eu herbyn nhw.

“Roedd rhai themâu cyffredin wrth i ni golli’r ddwy gêm ddiwethaf, felly rhaid i ni roi trefn arnyn nhw a bod yn barod ar gyfer y gêm nesaf.

“Rhaid i ni wella ym mhob maes o ystyried y gêm ddiwethaf. Fe wnaethon ni ollwng daliadau, ildio wicedi rhad gyda’r bat ac yna, wnaethon ni ddim bowlio’n dda iawn.

“Ry’n ni’n edrych am gysondeb ac yn y ddwy gêm ddiwethaf, dy’n ni’n sicr ddim wedi bod yn gyson.”

Swydd Gaerloyw: C Dent, C Bancroft, W Tavare, G Roderick, G van Buuren, P Mustard (capten), J Taylor, K Noema-Barnett, C Miles, D Payne, L Norwell

Morgannwg: J Rudolph, N Selman, O Morgan, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, A Salter, T van der Gugten, M de Lange, M Hogan (capten)

Sgorfwrdd