Anthony Hudson
Fe fydd cyn-reolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Anthony Hudson yn dychwelyd i wledydd Prydain nos Wener fel rheolwr rhyngwladol ar dîm Seland Newydd.
Dyma’r tro cyntaf iddo fe reoli tîm ar un o gaeau gwledydd Prydain ers i Gasnewydd ei ddiswyddo ar ôl 19 gêm yn 2011.
Roedd Casnewydd allan o’r Gynghrair Bêl-droed ar y pryd, ac mae’r profiad o golli ei swydd yn ne Cymru wedi ei “newid am y gorau”, meddai.
“Wrth edrych yn ôl, dyna un o’r pethau gorau sydd wedi digwydd, fwy na thebyg, oherwydd fe es i i ffwrdd a darganfod mwy o ysfa a dyhead i wella a gwrthbrofi pobol.”
Fel rheolwr, roedd e’n aelod o garfan academi West Ham ond fe roddodd y gorau i chwarae cyn troi ei law at reoli tîm Real Maryland Monarchs, ac yntau ond yn 27 oed ar y pryd.
Yn 30 oed, roedd e yng ngofal tîm Casnewydd, ac yn cael ei gymharu â rheolwr Man U, Jose Mourinho.
Ond roedd y ffaith nad oedd e wedi chwarae ar y lefel uchaf wedi ei gwneud hi’n fwy anodd iddo fe yn y byd rheoli, meddai.
“Os nad oes gyda chi gefndir cryf fel chwaraewr, unwaith ry’ch chi’n cael ambell ganlyniad gwael, ry’ch chi’n cael eich targedu ar unwaith oherwydd eich bod yn rheolwr ifanc.
“Ro’n i’n 27 yn cael fy swydd gyntaf yn America. Y tu allan i Loegr, fyddai pobol ddim yn gwerthfawrogi hynny, ond roedd yn sefyllfa debyg.
“Ry’ch chi’n rheoli cyllideb, mae eich swydd mewn perygl, ry’ch chi’n ennill ychydig iawn o arian ac yn ceisio goroesi. Mae cryn bwysau wedyn.”
Gyrfa
Ar ôl gadael Casnewydd, daeth Anthony Hudson yn rheolwr tîm dan 23 Bahrain cyn cael ei benodi’n rheolwr y tîm cenedlaethol.
Cafodd ei benodi’n rheolwr Seland Newydd yn 2014 gan ennill tlws Cwpan Gwledydd yr OFC.
Mae Seland Newydd ddwy gêm i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.
“Dw i wedi teithio’r byd – yr Ariannin, Sbaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Eidal. Pan ddechreuais i hyfforddi, byddwn i’n benthyg car am dair neu bedair wythnos ac yn gyrru o amgylch Lloegr.
“Yng Nghasnewydd ac America, roeddech chi o hyd yn chwarae.”