Paul Clement (llun: Golwg360)
Mae tîm pêl-droed Abertawe “ychydig yn brin” o’r lle’r oedd eu prif hyfforddwr Paul Clement wedi disgwyl iddyn nhw fod yr adeg hon o’r tymor.
Dywedodd wrth golwg360 y byddai wedi disgwyl i’w dîm fod yn eithaf diogel erbyn hyn ar ôl cyfnod llwyddiannus ar ddechrau ei gyfnod yn brif hyfforddwr ym mis Ionawr.
Fe ddaeth i’r clwb ddyddiau’n unig ar ôl y flwyddyn newydd pan oedd yr Elyrch ar waelod y tabl, ond fe lwyddodd i’w codi nhw rywfaint yn dilyn buddugoliaethau dros Lerpwl yn Anfield a Southampton yn Stadiwm Liberty.
Ond bellach, dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm ers Mawrth 4, pan lwyddon nhw i guro Burnley o 3-2 yn Stadiwm Liberty, gan golli pedair gêm a chael un gêm gyfartal.
Mae’r rhediad hwnnw o gemau’n golygu bod sicrhau triphwynt yn Watford ddydd Sadwrn (3 o’r gloch) yn angenrheidiol, yn enwedig gan fod Hull wedi dechrau ennill pwyntiau yng ngwaelodion y tabl.
Bellach, mae gan yr Elyrch chwe gêm yn unig i gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
‘Goroesi’
Dywedodd Paul Clement wrth golwg360: “Ry’n ni ychydig yn brin oherwydd pan y’ch chi’n dod i mewn i glwb sydd ar waelod y tabl, maen nhw wedi cael ychydig iawn o bwyntiau allan o nifer sylweddol o gemau.
“Y nod yw goroesi’n unig. Rhaid i chi gael eich hunain mewn sefyllfa lle gallwch chi aros yn y gynghrair.
“Mae gyda ni obaith o aros yn y gynghrair.”
Casglu pwyntiau
Yn ôl Paul Clement, mae canlyniadau’r tîm ar ddechrau ei gyfnod gyda’r clwb yn golygu bod ei chwaraewyr dan fwy o bwysau erbyn hyn oherwydd bod gan bawb ddisgwyliadau uchel.
“Dw i’n credu bod y ffaith ein bod ni wedi casglu cynifer o bwyntiau mor gyflym yn golygu bod y disgwyliadau wedi mynd i lefel uwch.
“Ond pe baech chi’n mynd yn ôl i’r fan honno a bod gyda chi obaith yn y gêm olaf…. byddai pawb yn dweud ‘Ie, gymerwn ni hynny’.
“Fe ddechreuon ni’n gryf, mae’n amlwg ein bod ni wedi colli’n ffordd eto a nawr, mae angen i ni gryfhau unwaith eto.”