Ar ôl colli o fatiad yn Swydd Northampton yr wythnos diwethaf, fe fydd Morgannwg yn ceisio sicrhau dechrau cryf i’r Bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain heddiw wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd.
Mae’r ystadegau’n sicr o blaid Morgannwg, gan nad yw’r ymwelwyr wedi ennill yr un gêm bedwar diwrnod yng Nghaerdydd ers 1991.
Dim Owen Morgan
Yn eu gêm ddiweddaraf yn erbyn ei gilydd y tymor diwethaf, y Cymro Cymraeg Owen Morgan oedd y seren, wrth iddo fe daro canred yn y gêm yng Nghaerwrangon – y noswyliwr cyntaf erioed yn hanes Morgannwg i daro canred.
Roedd y batiad hwnnw’n allweddol wrth i Forgannwg sicrhau’r fuddugoliaeth o bum wiced, a chwarae rhan bwysig wrth atal Swydd Gaerwrangon rhag cael dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth.
Dydy e ddim wedi cael ei gynnwys yn y garfan y tro hwn, ar ôl cael ei hepgor o’r tîm ar gyfer y daith i Swydd Northampton.
Michael Hogan yn dychwelyd
Ond y newyddion da i Forgannwg yw fod y bowliwr cyflym Michael Hogan yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gwella o anaf, ac mae disgwyl iddo fe a Marchant de Lange o Dde Affrica gymryd y bêl newydd.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, D Lloyd, C Ingram, C Cooke, A Donald, K Carlson, C Meschede, A Salter, M De Lange, M Hogan, L Carey, H Podmore
Swydd Gaerwrangon: D Mitchell, B D’Oliveira, T Fell, J Clarke, T Kohler-Cadmore, B Cox, J Leach (capten), E Barnard, J Hastings, J Tongue, J Shantry, G Rhodes