Prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement (Llun: golwg360)
Fe fydd rhaid i dîm pêl-droed Abertawe ymdopi â’r pwysau tan ddiwedd y tymor os ydyn nhw am aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, yn ôl eu prif hyfforddwr, Paul Clement.
Daw’r neges ar ôl i’r Elyrch golli o 1-0 brynhawn ddoe, sy’n golygu mai un fuddugoliaeth – ac un pwynt – maen nhw wedi eu cael yn eu pum gêm diwethaf.
Dim ond chwe gêm sy’n weddill o’r tymor ac mae’r canlyniad yn nwyrain Llundain brynhawn ddoe yn golygu eu bod nhw’n ôl yn y tri safle isaf yn y tabl unwaith eto.
Sgoriodd Cheikhou Kouyate ar ôl 44 munud, ac mae Paul Clement wedi dweud nad oedd perfformiad ei dîm yn ddigon da.
Pryder
“Alla i ddim gwneud esgusodion – doedd ein perfformiad ni ddim yn ddigon da.
“Pan fo gyda chi saith gêm yn weddill ac ry’ch chi’n brwydro i oroesi, ry’ch chi’n disgwyl i’r pethau sylfaenol gael eu gwneud dipyn gwell nag y gwnaethon ni heddiw.
“Galla i ond dychmygu mai pryder sydd wedi achosi i hynny ddigwydd, ynghyd â’r ffaith ein bod ni wedi ymdrechu’n fawr yn gorfforol yn erbyn Spurs ganol yr wythnos ac yna fe gawson ni dorcalon ar y diwedd.
“Dw i’n credu bod yna rwystrau corfforol yn ein perfformiad ni heddiw, ond daethon ni nôl yn dda a rhaid i ni roi hynny o’r neilltu.
“Dw i’n credu bod y chwaraewyr yn barod ar gyfer y gêm, ond mae yna gyfuniad o’r ochr gorfforol a’r ffaith fod y chwaraewyr yn amlwg yn bryderus.
“Roeddech chi’n gallu gweld hynny yn ein rhythm a’n hyder gyda’r bêl. Gwnaethon ni nifer fawr o gamgymeriadau heddiw a dw i’n credu mai pryder oedd wedi achosi hynny.
“Ond rhaid i ni ymdopi â hynny neu byddwn ni’n chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.”
Perfformiad
Gêm ddi-fflach oedd hi yn y pen draw, gydag ychydig iawn o gyfleoedd i’r naill dîm neu’r llall i sgorio.
Ond doedd perfformiad yr Elyrch ddim yn ddigon da, meddai Paul Clement.
“Doedd ein perfformiad ni ddim yr hyn roedden ni’n chwilio amdano fe ar ôl ein rhediad diweddar.
“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n gêm sâl, dim safon, gyda dau dîm yn chwarae â llawer o bryder.
“Roedd hynny’n sicr yn wir yn yr hanner cyntaf. Roedd tipyn o ofn yn ein gêm ni.
“Er i ni wella rywfaint yn yr ail hanner o safbwynt brwydro, roedd ein safonau technegol ni’n destun siom.”
Y tabl
Mae’r Elyrch yn ddeunawfed yn y tabl erbyn hyn, ond fe gawson ni ychydig o lwc wrth i Middlesbrough gael gêm gyfartal yn erbyn Burnley, ac fe gollodd Hull yn erbyn Manchester City.
Ychwanegodd Paul Clement: “Y peth positif yw fod [y tabl] ddim wedi newid llawer.
“Mae gan Crystal Palace ddwy gêm wrth gefn ond nhw sydd â’r rhediad mwyaf anodd nawr.
“Dw i’n dal i gredu y gall tipyn ddigwydd. Mae West Ham yn gysurus nawr, ond dw i’n sicr na fyddan nhw’n credu eu bod nhw’n ddiogel.
“Gall buddugoliaethau gefn-wrth-gefn newid pethau, felly hefyd colli gefn-wrth-gefn.”