Lukas Carey (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Doedd perfformiad tîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Northampton ddim yn adlewyrchu’r ymdrech a gafodd ei wneud wrth baratoi ar gyfer y gêm, yn ôl y capten Jacques Rudolph.
Collodd Morgannwg gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor o fatiad a 22 o rediadau o fewn deuddydd yn Northampton, a hynny ar ôl iddyn nhw gael eu bowlio allan am 101 yn eu batiad cyntaf.
Sgoriodd Swydd Northampton 310 yn eu batiad cyntaf nhw, ac roedd mantais batiad cyntaf o 209 yn ormod i Forgannwg ar lain oedd wedi dechrau cynnig tipyn o gymorth i’r bowlwyr.
Sgoriodd Morgannwg 187 yn eu hail fatiad, oedd yn golygu nad oedd rhaid i’r tîm cartref fatio eto.
Fe fu’n rhaid i Jacques Rudolph gyfaddef ei fod e wedi gwneud camgymeriad wrth fatio’n gyntaf, a hynny ar ôl dewis pedwar o fowlwyr cyflym fyddai wedi gallu manteisio ar yr elfennau ar fore cynta’r gêm.
‘Siomedig’
Ar ôl y gêm, dywedodd Jacques Rudolph ei fod e’n “siomedig” gyda’r canlyniad.
“Dyw ein perfformiad ni ddim yn adlewyrchiad teg o’r ymdrech wnaethon ni cyn y gêm hon.
“Roedd dau neu dri achlysur allai fod wedi newid y gêm – roedden nhw’n 27 am dair ac fe gollon ni ddau gyfle wedyn ac yna pan ddaeth Rory [Kleinveldt] i mewn i fatio, wnaethon ni golli cyfle cynnar unwaith eto.
“Ond dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn onest a dweud nad oedd yn llain 190 i gyd allan, roedd yn llain fatio digon da.”
Canmoliaeth
Er gwaetha’r perfformiad, roedd perfformiad y bowliwr cyflym o Bontarddulais, Lukas Carey yn deilwng o sylw arbennig gan Jacques Rudolph.
Fe gipiodd e bedair wiced am 85 wrth iddo fe ddechrau ei dymor llawn cyntaf gyda’r clwb, a hynny ar ôl dod i amlygrwydd yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn San Helen y tymor diwethaf.
Dywedodd Jacques Rudolph: “Lukas yw’r bowliwr sydd wedi creu’r argraff o blith y bowlwyr dros y mis diwethaf a dw i’n credu bod ganddo fe ddyfodol disglair.
“Chwaraeodd Colin [Ingram] yn dda gyda’r bat hefyd ond fel uned, rhaid i ni eistedd a darganfod ffordd o wella.”